O heddiw ymlaen, fydd wardeniaid traffig ddim yn gallu rhoi tocyn parcio am 10 munud wedi i amser y tocyn gwreiddiol ddod i ben.

Mae’r rheol newydd yn gymwys i filoedd o feysydd parcio preifat ledled y wlad.

Mae’r Gymdeithas Parcio Brydeinig (BPA) wedi newid ei chod ymarfer yn unol â meysydd parcio awdurdodau lleol.

Mae rheolwyr y meysydd parcio hyn hefyd wedi cael eu gwahardd rhag cynnig taliadau i wardeniaid am nifer y tocynnau maen nhw’n eu rhoi.

Roedd y BPA wedi disgyblu’r cwmni UK Parking Control am sgâm lle wnaeth y wardeniaid a oedd yn gweithio yn eu meysydd parcio ffugio ffotograffau o gerbydau wedi’u parcio oedd yn edrych fel eu bod wedi gor-aros.