Mae ddyn 21 oed o Lanbedrog ger Pwllheli wedi’i ladd mewn damwain yn China.

Mae’r Swyddfa Dramor yn Llundain wedi cyhoeddi eu bod yn gwneud eu gorau i gynorthwyo a chefnogi teulu Robin Llyr Evans “yn ystod y cyfnod anodd hwn”.

Roedd yn gweithio i gwmni technoleg chwaraeon ‘Hawkeye’ – y dechnoleg sy’n dangos os ydi peli pêl-droed neu denis wedi croesi llinell ar y cae neu’r cwrt – ac yn paratoi at bencampwriaeth denis yn ninas Wuhan, dinas fwya’ talaith Hubei, pan fu farw.

Mae Clwb Rygbi Pwllheli wedi talu teyrnged i Robin Llyr Evans, cyn-gapten eu tim ieuenctid, ar eu cyfri’ Twitter, gan ddweud eu bod yn “hynod drist” o golli “dyn ifanc bywiog, talentog a dymunol”.