Cyngor Sir Benfro
Mae cynlluniau newydd wedi’u cyhoeddi heddiw i greu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Ynni Adnewyddol yn Aberdaugleddau, Sir Benfro.

Bydd hyn yn creu tua 560 o swyddi newydd.

Mae cwmni o Gyprus,  Egnedol, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n buddsoddi £685m yn y cynlluniau.

Bwriad y cwmni yw troi biomas yn nwy glân er mwyn creu trydan gwyrdd neu danwydd hylif gwyrdd.

Mae’r cwmni wedi prynu hen safle purfa olew Gulf yn Waterston a safle’r RNAD yn Blackbridge.

Mae’r cwmni’n gobeithio dod yn bartner gyda phrifysgolion Cymru hefyd er mwyn creu cyfleuster ymchwil a datblygu ar y safle.

Potensial

“Mae gan y cynllun hwn y potensial i osod Aberdaugleddau wrth galon un o’r diwydiannau mwyaf mwyaf cyffrous yn y byd, sef ynni adnewyddadwy,” meddai Phil Johns, llefarydd ar ran Egnedol.

Bydd busnesau eraill yn gallu manteisio ar y gwres sy’n cael ei gynhyrchu  hefyd, gan gynnwys fferm corgimychiaid, fferm bysgod, ffatri gaws, fferm madarch, uned gynhyrchu algâu a thai gwydr.

Bydd y biomas yn cyrraedd Aberdaugleddau ar long er mwyn osgoi cynyddu’r traffig ar y ffyrdd.

Fe groesawodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jamie Adams, y cynlluniau gan ddweud: “Rwy’n falch iawn bod defnydd newydd, cyffrous wedi cael ei ganfod ar gyfer yr hen safle.”

Bydd Egnedol yn paratoi arddangosfa gyhoeddus o’u cynlluniau yn ystod mis Hydref er mwyn clywed barn y gymuned.

Yna, byddan nhw’n cyflwyno’r cais cynllunio gerbron y Cyngor, ac yn amodol ar ganiatâd ac amodau’r farchnad, fe ddywedodd y cwmni eu bod nhw’n ystyried cynyddu swm y buddsoddiad i £1.6bn yn ystod y pum mlynedd nesaf.