Calan
Mae tri albwm Gymraeg eu hiaith wedi cael eu cynnwys ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2014-2015 eleni.
Fe fydd Geraint Jarman, Calan a Gwenno i gyd yn cystadlu am y wobr, gafodd ei sefydlu i hyrwyddo’r gerddoriaeth wreiddiol orau o Gymru ac sydd bellach yn ei phumed flwyddyn.
Pymtheg albwm sydd ar y rhestr fer eleni yn hytrach na’r 12 oedd i’w cael gynt, gyda Joanna Gruesome, enillwyr y wobr llynedd, wedi’u henwebu unwaith eto.
Mae rhai o’r grwpiau eraill sydd ar y rhestr yn cynnwys enwau adnabyddus fel Catfish and the Bottlemen a Paper Aeroplanes, ac albymau cyntaf artistiaid fel Zefur Wolves a Tender Prey.
Dros 60 ar y rhestr hir
Fe fydd enillwyr y wobr, gafodd eu creu yn 2011 gan DJ BBC Radio 1 Huw Stephens a’r hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron, yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni ar 26 Tachwedd.
Mae panel y beirniaid yn cynnwys Helen Weatherhead (BBC 6Music); Noel Gardner (Buzz Magazine); Kieran Evans (Cyfarwyddwr Ffilmiau); David Wrench (Cynhyrchydd); Neal Thompson (Focus Wales); Owain Schiavone (Golwg / Y Selar); Iain Richards (Velvet Coalmine); Griff Lynch Jones (Ochr 1, S4C); Nici Beech (Gŵyl Arall, Noson 4a6); Andy Bibey (One Little Indian); Ben Coleman (Gŵyl y Dyn Gwyrdd) a Laura Snapes (Pitchfork / NME).
“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r rhestr fer eleni. O ystyried y ffaith fod mwy na 60 albwm i gyd wedi eu cyflwyno penderfynwyd cynnwys 15 ohonynt ar y rhestr fer eleni,” meddai John Rostron.
“Rwy’n credu fod y rhestr yn cynrychioli ein casgliad mwyaf amrywiol hyd yma ac yn cynnwys cerddoriaeth eithriadol gan artistiaid sefydledig a newydd fel ei gilydd”.
Dyfarnwyd y wobr y llynedd i Joanna Gruesome am eu halbwm gyntaf, Weird Sister. Mae’r enillwyr blaenorol eraill yn cynnwys Georgia Ruth am Week of Pines (2012–2013), Future of the Left am The Plot Against Common Sense (2011-2012) a Gruff Rhys am ei Hotel Shampoo (2010-2011).
Rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2014-2015:
Calan – Dinas (Sain)
Catfish and the Bottlemen – The Balcony (Island / Communion Records)
Geraint Jarman – Dwyn yr Hogyn Nol (AnkstMusic)
Gwenno – Y Dydd Olaf (Peski / Heavenly Recordings)
H Hawkline – In the Pink Condition (Heavenly Recordings)
Hippies vs Ghosts – Droogs
Houdini Dax – Naughty Nation (Houdini Dax / Listen to This)
Joanna Gruesome – Peanut Butter (Fortuna POP!)
Keys – Ring the Changes (See Monkey Do Monkey)
Paper Aeroplanes – Joy (My First Records)
Richard James – All the New Highways
Tender Prey – Organ Calzone (Bird)
Trwbador – Several Wolves (Owlet)
Zarelli – Soft Rains (Bronze Rat)
Zefur Wolves – Zefur Wolves (Strangetown)