Mae Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod mewn maes parcio yn Nhrearddur.

Cafodd y corff ei ddarganfod brynhawn Sadwrn ym maes parcio gwesty.

Dydy hi ddim yn glir sut y bu farw’r dyn.

Mae ei deulu wedi cael gwybod.