Mae aelodau Sefydliad y Merched o bob cwr o Gymru yn ymgynnull yng Nghaerdydd heddiw i ddathlu pen-blwydd y mudiad yn 100 oed.

Ffurfiwyd y gangen gyntaf o Sefydliad y Merched yng ngwledydd Prydain yn Llanfairpwll Gwyngyll, Sir Fon, ar Fedi 16, 1915. Erbyn heddiw, dyma’r mudiad gwirfoddol mwyaf i ferched yn y Deyrnas Unedig.

Thema Cynhadledd y Canmlwyddiant yw ‘Y Cam Nesaf’ ac mae’r siaradwyr gwadd yn cynnwys yr actores, cantores a chyflwynnydd Connie Fisher, yn ogystal â’r hanesydd ac awdures ‘The Bletchley Girls’, Tessa Dunlop.

Ers ffurfiad y SyM cyntaf yn Llanfairpwll yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae FfCSyM wedi bod yn rym pwerus dros newid ar faterion fel sgrinio’r fron, peryglon ysmygu, ymwybyddiaeth o HIV ac AIDS, tal cyfartal ar gyfer merched a chynyddu’r nifer o fydwragedd.

Heddiw, mae dros 6,600 o Sefydliadau gyda mwy na 212,000 o aelodau ledled gwledydd Prydain, gan gynnwys 16,000 o aelodau yng Nghymru, yn cwrdd pob mis, nid yn unig i drafod mandadau ac ymgyrchoedd –  gan gynnwys yr ymgyrch diweddaraf ar roi organau – ond hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac i ddysgu sgiliau sydd o fudd i aelodau a’u cymunedau gan gynnwys atgyweiriadau dodrefn, hunanamddiffyniad a hyd yn oed gwneud coctels.

Mae llu o weithgareddau a phrosiectau arbennig wedi bod yn cymryd lle trwy gydol 2015 i ddathlu canmlwyddiant FfCSyM, gan gynnwys taith y Baton Canmlwyddiant dros Gymru a Lloegr a gyrhaeddodd Cyfarfod Blynyddol yn Neuadd Frenhinol Albert ar Fehefin 4, lansiad ym Miwmares o baneli crefft y canmlwyddiant yn dangos 100 mlynedd o Sefydliad y Merched; caws canmlwyddiant mewn partneriaeth â Blaenafon Cheddar Company; a’r prosiect storïau digidol yn dal atgofion, teimladau a phrofiadau aelodau Sefydliad y Merched.