Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Bwyd, Llywodraeth Cymru
Fe fydd 16 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn ymweld â’r Ffindir a Sweden yr wythnos nesaf, gyda’r bwriad o ddatblygu cysylltiadau prynu a gwerthu dramor.

Dyma’r daith gyntaf o’i math, ac mae wedi’i threfnu gan fenter Bwyd a Diod Cymru ac wedi’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru.

“Mae hwn yn gam pwysig i ehangu’r diwydiant yn gynaliadwy,” meddai Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd.

“Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio chwilio am ffyrdd newydd i sicrhau bod cynnyrch Cymru yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi ledled y byd.”

Mŵs Piws

Mae’r busnesau fydd yn mynd i Sgandinafia ddydd Llun nesa’ (Medi 21) yn cynnwys cynhyrchwyr llaeth, bisgedi, cig a chwrw – ac un dyn busnes sydd wedi manteisio ar y cynllun yw Lawrence Washington, sylfaenydd Bragdy Mŵs Piws o Borthmadog.

“Mae gwledydd Sgandinafia o ddiddordeb arbennig inni ym Mragdy Mŵs Piws”, meddai, “am ei fod yn cynnig opsiynau ar gyfer marchnadoedd allforio posib.”

Fel rhan o’r daith bydd cyfle i’r busnesau gyfarfod â darpar brynwyr, ymweld â siopau a chael cyfle i arddangos eu cynhyrchion.