Mae gwerthwr eiddo o Gateshead yn cynnig cartref i gyn-filwyr mewn tai gwag yn rhad ac am ddim, ar ôl iddo ddarllen am gyn-filwr oedd yn byw ar y stryd yng Nghymru.

Dywedodd Paul Banning, sy’n rhedeg cwmni asiantaeth dai: “Fe wnes i weld llun o ddyn yng Nghymru a oedd newydd ddod allan o’r fyddin ers 12 wythnos ac roedd yn eistedd ar gornel stryd gyda blanced drosto.

“Roedd hyn yn rhwystredig iawn imi. Roedd wedi gwasanaethu ei wlad ond dyna lle’r oedd, yn eistedd ar gornel y stryd.”

Fe wnaeth Paul Banning ysgrifennu neges ar ei gyfrif Facebook yn cynnig gosod tai gwag oedd ar lyfrau ei gwmni i gartrefu cyn-filwyr.

Tai gwag

Fe ddywedodd y neges: “Mae gennyf nifer o eiddo gwag yng ngogledd Lloegr, ar gyfer cyn-filwyr sy’n byw ar y stryd neu sydd angen to uwch eu pen. Cysylltwch gyda mi cyn gynted a bo modd ac fe allwch chi gael yr allweddi heb dalu ffioedd.”

Yn ôl Paul Banning: “Maen nhw’n bobl ddiffuant heb unrhyw le i fynd. Mae cyn-filwyr, yn ddi-fai yn dod allan o’r fyddin gyda salwch, ac yn ei gweld hi’n anodd dygymod gyda bywyd y tu allan i’r fyddin. Rydw i am geisio fy ngorau i’w helpu nhw.”

Mae’r cyn-filwyr yn gallu byw am ddim nes eu bod yn dechrau derbyn budd-dal tai.

“Mae’r ymateb wedi bod yn anghredadwy,” meddai Paul Banning, gyda miloedd o bobl yn rhannu’r neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd Paul Banning yn cyfarfod gydag elusennau sy’n helpu cyn-filwyr ac mae’r gwerthwr tai wedi derbyn cynigion am ddodrefn a gwaith i atgyweirio’r tai gan bobl sy’n awyddus i’w helpu.

‘Cymorth ar gael’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cymorth ar gael i gyn-filwyr drwy gynllun Homebuy, sydd hefyd ar gael i weddwon milwyr sydd wedi cael eu lladd.

Cafodd £2m ei roi yn 2013-14 i helpu milwyr sy’n gadael y lluoedd arfog yng Nghymru a’u teuluoedd i ddod o hyd i lety addas, gyda chartrefi newydd yn cael eu hadeiladu ar gyfer cyn-filwyr a’u teuluoedd, meddai’r llefarydd.

Dywedodd hefyd bod canllawiau ar gael ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn iddyn nhw adnabod pobl sy’n gadael y lluoedd arfog, ac a allai fod mewn perygl o fod yn ddigartref, fel eu bod yn cael cymorth mor fuan â phosib.