Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan hosbis Tŷ Hafan yn nodi fod angen gwella gofal lliniarol i blant a phobol ifanc.

Mae’r adroddiad yn nodi fod gofal lliniarol i blant yn cael ei ystyried ar y cyd â gofal lliniarol i oedolion – a bod hynny’n “gamarweiniol”.

Dylai plant a phobol ifanc sy’n dioddef o gyflyrau hirdymor gael gofal parhaol wedi’i deilwra i’w cynorthwyo nhw a’u teuluoedd.

Ond, yn hytrach, mae’r gofal yn canolbwyntio ar ofal diwedd oes, a hynny’n unol â thueddiadau gofal oedolion.

Am hynny, mae’r adroddiad yn galw am “wella’r sylw strategol” i ofal lliniarol i blant, ac mae’n cynnwys nifer o argymhellion.

Yr Argymhellion

Gwnaed yr adroddiad ar y cyd â Sefydliad Cymreig Iechyd a Gofal Cymdeithasol Prifysgol De Cymru.

Mae’r argymhellion yn cynnwys galw ar Lywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd i wella, ac ailedrych, ar y gofal lliniarol sy’n cael ei gynnig yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn galw am yr un statws ar gyfer gofal lliniarol i blant â gofal lliniarol i oedolion.

Un o’r argymhellion eraill yw creu llinell gyngor 24 awr a sefydlu targedau perfformiad yn benodol ar gyfer gofal plant.

Yn ôl ffigurau’r adroddiad, credir bod 1,054 o blant a phobl ifanc angen gofal lliniarol yng Nghymru yn ystod 2014, ond honnir nad oedd 90% o blant wedi cael y cymorth oedden nhw ei angen.