Y Manics
Mae casgliad newydd o ganeuon gan artistiaid o Gymru wedi cael ei gyhoeddi heddiw er mwyn codi arian i’r ffoaduriaid sydd wedi ffoi o Syria
Rhoddodd artistiaid fel y Super Furry Animals a’r Manic Street Preachers eu traciau i’r achos am ddim.
Mae caneuon Cymraeg hefyd yn cael eu cynnwys yn y casgliad gan gynnwys rhai gan Gwenno Saunders, Kizzy Crawford ac Aled ac Iwan Rheon.
“Roedd yn anrhydedd cael fy ngwahodd i gymryd rhan,” meddai Aled Rheon.
“Mae’n hynod o bwysig ac roeddwn yn falch cael helpu’r achos da.”
Lluniau torcalonnus yn ysgogi’r cwbl
“Gwelais luniau o Alan Kurdi bach ar y traeth ac o blant bach eraill ar ffo ac roedd hynny’n torri fy nghalon,” meddai David Owens, newyddiadurwr sy’n gyfrifol am y cynllun.
“Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i helpu.”
Ac yn ôl ef roedd hi’n hawdd iawn i gael y casgliad at ei gilydd mewn cyfnod byr,
“Roedd pawb wedi cytuno, ac mae’n wych gweld pobl yn dod at ei gilydd. Diolch yn fawr iawn i’r holl artistiaid, y rheolwyr recordiau a phawb arall bu’n helpu gyda’r cynllun.”
Mae’r casgliad ar gael o http://welshrockforrefugees.bandcamp.com/ ac mae ei holl elw yn mynd at yr elusen, Refugee Action.
“Mae’r ymateb wedi bod yn wych ers i ni gyhoeddi’r casgliad bore ‘ma, rydym ni wedi codi miloedd yn barod i’r elusen,” meddai David Owens.
Yr artistiaid i gyd:
Super Furry Animals
60ft Dolls
Houdini Dax
The Joy Formidable
Amy Wadge
Cian Ciaran
Climbing Trees
Pale Blue Dots
Euros Childs
Georgia Ruth
Ellie Makes Music
Gulp
Gwenno
Stereophonics
Zervas & Pepper
Kizzy Crawford
Mike Peters
Charlotte Church
Cerys Matthews
Gruff Rhys
Trampolene
Paper Aeroplanes
Sion Russell Jones
Iwan ac Aled Rheon
Grant Nicholas
The Earth
Zefur Wolves
Jayce Lewis a Gary Numan
The People The Poet
Manic Street Preachers