Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones AC, wedi cyhoeddi heddiw y byddai llywodraeth Cymru dan arweiniad ei phlaid yn clustnodi £590m i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd yng Nghymru.

Wrth siarad yn Aberystwyth, ychwanegodd y byddai Plaid Cymru yn blaenoriaethu’r cyllid i hyfforddi a recriwtio mil o feddygon ychwanegol yng Nghymru.

Yn ôl y blaid, mae’r ffigwr o £590 miliwn yn dod o’r gyfran y bydd Cymru yn ei dderbyn o dan fformiwla Barnett ar ôl i Lywodraeth Prydain benderfynu gwario £8 biliwn y flwyddyn yn ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

Gan Lywodraeth Cymru y byddai’r hawl i ddewis sut i wario’r arian, ond mae Plaid Cymru’n dweud y bydden nhw hefyd yn ei roi tuag at iechyd.

Beirniadu Llafur am ‘gwymp mewn safonau’

Mae Elin Jones wedi beirniadu’r llywodraeth bresennol am “amseroedd aros hirach a chwymp mewn safonau” yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

“Yn dilyn blynyddoedd o lywodraeth flinedig a difflach Llafur, mae ar Wasanaeth Iechyd Cymru angen ddirfawr am gyllid ychwanegol i wella safonau i staff a chleifion,” meddai mewn datganiad.

Yn ogystal ag addo mil o feddygon ychwanegol, mae’r Blaid hefyd wedi ymrwymo i warchod gwasanaethau lleol, integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a chwtogi amseroedd aros.