Ar ôl ennill o dan amgylchiadau dramatig iawn yng Nghyprus, roedd Chris Coleman yn amau y byddai ei dîm yn barod am y sialens y bydd Israel yn ei gosod iddyn nhw nos Sul yng Nghaerdydd.

Sgoriodd Gareth Bale y gôl allweddol hefo 10 munud i fynd yn dilyn perfformiad ymosodol eithaf gwan gan Gymru nos Iau.

Wrth siarad hefo’r wasg fore Sadwrn, mynegodd Coleman ei falchder fod gan Gymru wrthwynebwyr mor gryf mewn gêm a allai sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Ewro 2016 yn Ffrainc.

Y tro diwethaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth fawr, fe guron nhw Israel yn y gêm dyngedfennol.

Ychwanegodd Coleman ei bod yn eironig fod hanes yn cael ei ailadrodd unwaith eto: “Mae’n ddoniol sut mae pethau’n gweithio, ’58 oedd Israel hefyd, ond mae pobol yn gorfod cofio fod gan Israel rywbeth i chwarae amdano yn fan hyn, dydy o ddim fel eu bod nhw’n dod yma gyda’u hymgyrch drosodd.’

“Rwy’n falch ein bod yn chwarae yn erbyn tîm cryf da sy’n chwarae am rywbeth eu hunain, dydy hynny ddim i ddweud y byddai’r chwaraewyr yn ymlacio pe na bai hynny’n wir, achos maen nhw’n gwybod yn well na hynny.’

Peth positif i’r garfan hefyd yw fod David Vaughan wedi cael ei alw yn ôl ar ôl methu’r gêm gyntaf am resymau personol.

“Bydd ei bresenoldeb e yng nghanol cae yn helpu Cymru lot.”

Dim edrych yn ôl

Ar ôl siwrnai i’r fan yma yn y gystadleuaeth, o gael crasfa yn erbyn Serbia dair blynedd yn ôl i rwan, mae cefnogwyr a newyddiadurwyr wedi bod yn canolbwyntio ar eu cynnydd.

Gwrthododd Coleman wneud sylw am hynny, ac fe ddywedodd y byddai’n edrych i’r dyfodol:

“Mae beth bynnag rydym wedi ei wneud hyd yn hyn wedi cael ei wneud, ond beth fyddwn yn ei wneud nesaf ydy’r peth pwysig, mae’n rhaid i ni barhau i wneud y pethau da a dyna beth rydym am ei wneud ddydd Sul.

“Os ydych yn parhau i edrych dros eich ysgwydd ar yr hyn rydych wedi ei gyflawni, nid ydych yn edrych i’r dyfodol – fel carfan, rydym ni yn sicr yn edrych ymlaen at y dyfodol.”

Paratoadau wych

Er bod y targed yn mor agos at cael eu cyflawni, nid ydi Coleman yn fodlon derbyn bod safonau’r carfan am disgyn o gwbl, a pwysleisiodd y pwysigrwydd o’r paratoadau yno a sut oedd nhw’n rhan enfawr o pam mae Cymru wedi bod yn mor llwyddiannus yn diweddar:

“Mae ein paratoadau bob amser wedi bod o’r radd flaenaf, o ran paratoi’r chwaraewyr a’r wybodaeth maen nhw wedi’i derbyn, dyna pam rydym wedi bod yn cael canlyniadau a pherfformiadau gwych.

“Rydym yn gwybod y bydd awyrgylch gwych yfory, ond ni ddylem gael ein dal i fyny ynddo fe oherwydd os ydym ni yn dechrau meddwl am yr hyn sydd wedi dod â ni i fan hyn yn y lle cyntaf, ac mae’n rhaid i ni beidio â gwneud hynny, ddylen ni ddim ond meddwl am ein cynllun ni i ennill y gêm.”

Cymru (3-4-1-2): Hennessey; Gunter, Williams, Davies; Richards, Edwards, Vaughan, Taylor; Ramsey; Bale, Robson-Kanu

Stori: Jamie Thomas