Mae undeb ffermwyr wedi dechrau ar ymgyrch newydd i dynnu sylw at holl gynnyrch ffermydd Cymru wrth i sawl sector wynebu argyfwng prisiau.

Fe ddaeth cadeiryddion ac is-gadeiryddion pwyllgorau Undeb Amaethwyr Cymru at ei gilydd yn Aberystwyth ddoe ar gyfer cyfarfod argyfwng.

Y canlyniad yw dechrau ymgyrch ‘Mwy na chig oen’ er mwyn tynnu sylw at y trafferthion a cheisio denu mwy o gwsmeriaid i brynu cynnyrch Cymreig.

‘Prynu’n lleol’

Yn ôl cadeirydd yr undeb, Glyn Roberts, fe fyddan nhw’n trefnu cyfarfodydd yn ystod yr wythnosau nesa’ gyda chyrff eraill o fewn y diwydiant, y Llywodraeth a chwmnïau siopau.

“Yn rhan o’r cyfarfodydd hyn, mi fyddwn ni’n siarad am brisiau cynnyrch ochr yn ochr â phrynu’n lleol a labelu cliriach,” meddai.

“Roedd gynnon ni gynrychiolaeth amrywiol o sectorau diwydiant yn y cyfarfod, a hynny’n dangos pa mor bwysig yw hi ein bod ni gyd yn gweithio gyda’n gilydd.”

Cefndir

Yn ystod yr wythnosau diwetha’, mae ffermwyr mewn sawl rhan o Gymru wedi bod yn protestio ynglŷn â phrisiau, yn enwedig yn y sectorau llaeth a chig oen.