Mae gan Jeremy Corbyn gefnogaeth mwy na hanner y rhai sydd â phleidlais yn ras arweinyddiaeth y Blaid Lafur, awgryma arolwg barn newydd.

Daw’r arolwg er gwaetha rhybuddion gan gyfres o ffigurau amlwg y blaid y byddai dewis Jeremy Corbyn fel arweinydd yn drychinebus i Llafur a’i siawns o ddychwelyd i rym yn yr etholiad cyffredinol nesa yn 2020.

Canfu arolwg YouGov ar gyfer papur newydd The Times – a holwyd 1,411 o’r rhai sy’n gymwys i bleidleisio – fod Jeremy Corbyn bron wedi dyblu ei gefnogaeth o 32% mewn wythnos.

Mae hynny’n rhoi 53% iddo – digon i ennill y gystadleuaeth heb yr angen i gyfrif ail dewisiadau – gydag Andy Burnham yn colli pum pwynt i 21%, Yvette Cooper yn gostwng dau bwynt i 18% a Liz Kendall yn colli tri phwynt ar 8%.

Wrth i bryderon ddod i’r amlwg am broses pleidleisio’r arweinydd newydd – mae’r newydd fod chwech o bob deg o’r rhai sy’n cefnogi Jeremy Corbyn yn gefnogwyr newydd o’r blaid.

Mae honiadau wedi bod fod aelodau grwpiau asgell chwith a Cheidwadwyr ymhlith y tua 190,000 o bobl sydd wedi ymuno a’r blaid ers yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.