Llanbedr Pont Steffan
Mae dyn o Lanbedr Pont Steffan wedi ei orchymyn i dalu dirwy a chostau llys o fwy na £800 am dipio ysbwriel yn anghyfreithlon.
Cafwyd Stuart Roper, 43 oed ac o Felinfach, yn euog yn ei absenoldeb o dorri Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn Llys Ynadon Caerfyrddin.
Clywodd y llys fod Adran Gorfodaeth Amgylcheddol y cyngor sir lleol wedi derbyn cwyn o dipio anghyfreithlon ar y B4337 Llansawel i ffordd Llanybydder, a hynny ym mis Mai’r llynedd.
Yno canfu gwastraff adeiladu gan gynnwys sylweddau peryglus.
Roedd tyst wedi nodi rhif cerbyd Stuart Ropper ac wedi gweld enw cwmni adeiladu lleol ar gefn y lori.
Yn ystod yr ymchwiliad roedd Stuart Roper wedi dweud ei fod wedi cael caniatâd perchennog y tir i dipio yno.
Cafodd ddirwy o £ 250 a gorchymyn i dalu £527.42 sef costau’r erlyniad.