Gorsaf niwclear Trawsfynydd
Mae un o swyddogion yr undeb sydd yn cynrychioli gweithwyr yn hen orsaf niwclear Trawsfynydd wedi dweud wrth y BBC y byddai’n croesawu dod ag adweithydd arbrofol i’r ardal.

Y llynedd fe ddatgelodd Golwg bod trafodaethau eisoes wedi cael eu cynnal rhwng Aelodau Cynulliad a sefydliad peirianneg ynglŷn â’r posibilrwydd o adeiladu adweithydd o’r fath ger yr orsaf bresennol.

Byddai’r Adweithyddion Modwlar Bychan oedd yn cael ei awgrymu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol yn fath newydd, llai o atomfa niwclear.

Ac yn ôl Darryl Williams o undeb Unite, fe ddylai unrhyw ddatblygiad oedd yn debygol o greu swyddi newydd i’r gweithwyr presennol gael ei ystyried o ddifrif.

“Byddem yn croesawu unrhyw beth fyddai’n cadw sgiliau lleol yn yr ardal,” meddai’r swyddog undeb.

Colli swyddi

Ym mis Ebrill eleni fe ddywedodd cwmni Magnox, sydd berchen safle’r hen orsaf niwclear yn Nhrawsfynydd, y byddai cytundebau swyddi 90 o bobl yno’n dod i ben erbyn diwedd y flwyddyn.

Dyw’r orsaf ddim wedi bod yn cynhyrchu trydan ers 1991, ac mae wedi bod yn y broses o gael ei datgomisiynu ers hynny.

Bydd rhyw 180 o bobl yn parhau i weithio ar y safle, ond mae disgwyl y bydd y rhan fwyaf o’r swyddi hynny hefyd wedi mynd ymhen dwy flynedd.

Adweithydd newydd

Mewn papur gafodd ei gyhoeddi llynedd fe ddywedodd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol y gallai Prydain arbrofi â math newydd o ynni niwclear fyddai’n golygu pwerdai llai o faint.

Does dim Adweithyddion Modwlar Bychan yn y DU ar hyn o bryd ond fe awgrymodd y sefydliad peirianneg y gallai’r llywodraeth arbrofi â’r syniad ar safle adweithydd presennol fel Trawsfynydd.

Mewn adroddiad diweddar mae Pwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd  Tŷ’r Cyffredin hefyd wedi galw ar lywodraeth y DU i geisio bwrw ymlaen â datblygu’r math newydd yma o adweithydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei fod yn fater i lywodraeth San Steffan ond y byddan nhw “a Bwrdd Menter Eryri yn parhau i fonitro’r sefyllfa”.

Ond cafodd y cynllun ei feirniadu gan un o gynghorwyr lleol ardal Trawsfynydd, Meredydd Williams, a ddywedodd bod y diwydiant niwclear yn trin y Cymry fel “guinea pigs”.

“Mae’r ardal yma wedi clymu i dwristiaeth, a’r peth olaf sydd ei angen o ran yr ochr yna ydi cael adweithydd niwclear, achos dydi pobl ddim eisiau aros a gweld hynny,” meddai Meredydd Williams.