Llys y Goron Abertawe
Carcharu dynes am chwe blynedd am daro dau gyda’i char yn fwriadol
Amanda Myles, 34, o Abertawe wedi gwadu ceisio achosi niwed corfforol difrifol a gyrru’n beryglus
Mae dynes o Abertawe a oedd wedi gwyro ei char ar y pafin er mwyn taro dau gerddwr yn fwriadol, wedi cael ei charcharu am chwe blynedd.
Roedd Amanda Myles, 34, wedi gwadu ceisio achosi niwed corfforol difrifol a gyrru’n beryglus.
Ond yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe cafwyd Myles yn euog o’r ddau gyhuddiad.
Clywodd y llys bod Myles wedi cyhuddo Stacey Stokes a Jamie Huxtable o ddwyn beic plentyn wrth iddi sefyll tu allan i dy yn Bonymaen ym mis Mehefin y llynedd. Roedd Stacey Stokes a Jamie Huxtable yn y tŷ ar y pryd.
Cafodd yr heddlu eu galw ond erbyn iddyn nhw gyrraedd roedd Myles wedi gadael.
Tua 8yh ar yr un diwrnod roedd Stacey Stokes a Jamie Huxtable yn cerdded ar hyd Heol Mansel, Bonymaen pan gawson nhw eu taro o’r tu ôl gan gar Peugeot 405 a oedd yn cael ei yrru gan Myles. Roedd hi wedi gyrru ar hyd y pafin cyn eu taro.
Wrth ei dedfrydu heddiw dywedodd y barnwr Peter Heywood wrth Myles o Flaen Cefyn, Abertawe, ei bod yn “wyrth” na chafodd Stacey Stokes a Jamie Huxtable anafiadau mwy difrifol a’i bod wedi defnyddio ei char fel “arf”.
Clywodd y llys bod y ddau ddioddefwr wedi cael eu cleisio’n ddifrifol o ganlyniad i’r hyn ddigwyddodd ond nad oedden nhw wedi torri esgyrn.
Cafodd Myles ei charcharu am chwe blynedd.