Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ymchwiliad ar ôl i ddyn 31 oed farw yn dilyn  ymosodiad difrifol yn Llandrindod.

Bu farw’r dyn yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad yn Stryd Temple yn y dref yn oriau man y bore ma. Mae ei deulu wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw sydd â gwybodaeth neu a oedd yn yr ardal rhwng 11yh nos Sadwrn, 4 Gorffennaf a 4.15yb dydd Sul, 5 Gorffennaf i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111.

Mae Stryd Temple a Heol Grosvenor wedi cau ac mae’r traffig yn cael ei ddargyfeirio.