Chantia Iruagha
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth i geisio dod o hyd i ferch 17 oed o Gaerdydd sydd ar goll.

Nid yw Chantia Iruagha o Dreganna wedi cael ei gweld ers 26 Mehefin.

Mae’r heddlu’n credu ei bod wedi prynu pabell o siop Halfords yn Heol Penarth ers iddi fynd ar goll.

Mae Chantia Iruagha yn 5 troedfedd 6’, gyda gwallt golau at ei hysgwyddau. Credir ei bod hi’n gwisgo siwmper glas neu wyrdd pan gafodd ei gweld y tro diwethaf.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n bryderus amdani ac yn apelio ar unrhyw un a alli fod wedi ei gweld neu’r babell i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.