Trudy Jones
Mae cyrff naw o bobl o Brydain – gan gynnwys dynes o Gymru – a gafodd eu lladd ar draeth yn Tiwnisia, yn cael eu cludo yn ôl i’r DU prynhawn ma.

Ymhlith y naw sy’n dychwelyd ar awyren y Llu Awyr mae corff Trudy Jones, 51 oed, o’r Coed Duon.

Fe fydd cyrff Lisa a William Graham, Philip Heathcote, Ann a James McQuire, Janet a John Stocker, a David Thomson, hefyd yn dychwelyd i safle’r Llu Awyr yn Brize Norton yn Sir Rhydychen heddiw.

Mae disgwyl i’w teuluoedd fynd i Brize Norton i weld yr eirch yn dod oddi ar yr awyren a fydd wedyn yn cael eu cludo i orllewin Llundain ar gyfer cwest i’w marwolaethau.

Roedden nhw ymhlith 38 o bobl gafodd eu saethu’n farw ar draeth Sousse yn Tiwnisia ddydd Gwener ddiwethaf.

Cafwyd cadarnhad heddiw bod 30 o bobl o Brydain wedi cael eu lladd yn y gyflafan ar ôl i’r dyn arfog, Seifeddine Rezgui, danio gwn at dwristiaid ar y traeth.

Mae llywodraeth Tiwnisia wedi arestio 12 o bobl sy’n cael eu hamau o gynorthwyo Rezgui.

Yn ôl swyddogion yn Tiwnisia roedd Rezgui wedi cael hyfforddiant mewn gwersyll jihadaidd yn Libya ar yr un pryd a dau ddyn arall a oedd wedi ymosod ar amgueddfa Bardo yn Tunis ym mis Mawrth, gan ladd 22 o bobl.