Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod swyddogion o’r Uned Difa Bomiau wedi gadael stad o dai yng Nghasnewydd, yn dilyn pryderon am becyn amheus gafodd ei ddarganfod y bore ‘ma.

Fe gafodd pobol mewn 30 o gartrefi ym Mharc Gilas Graig eu symud oddi yno ar ôl i’r pecyn gael ei ddarganfod am tua 7:30 o’r gloch.

Yn dilyn ymchwiliad trylwyr, arweiniodd at gau ffyrdd cyfagos, fe adawodd y swyddogion y safle tua 12 o’r gloch.

Dywedodd llefarydd o Heddlu Gwent: “Yn dilyn asesiad, mae swyddogion wedi dod i’r casgliad nad oes pryder ynglŷn â’r pecyn.

“Rydym yn ddiolchgar i’r trigolion lleol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i ni ymateb i’r sefyllfa.”