Eluned Morgan
Mae’r cyn Aelod Seneddol Ewropeaidd, y Farwnes Morgan o Drelái, wedi datgelu y byddai’n hoffi sefyll fel ymgeisydd Llafur yn etholiad Cynulliad 2016.

Dywedodd un o hoelion wyth y Blaid Lafur yng Nghymru, Leighton Andrews, ar Twitter ei fod “wrth ei fodd” gyda’r newydd.

Mae Eluned Morgan yn llefarydd Llafur ar Gymru a materion tramor yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Dywedodd ei bod hi eisiau sefyll naill ai ar y rhestr ranbarthol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, neu yng Nghastell-nedd, yn dilyn cyhoeddiad yr AC presennol yno, Gwenda Thomas, ei bod hi’n bwriadu ymddeol y flwyddyn nesaf.

Roedd Eluned Morgan yn Aelod Seneddol Ewropeaidd tan 2009, a hi oedd aelod ieuengaf y Senedd pan gafodd hi ei hethol yn 1994.

Fe wnaeth y cyhoeddiad ar Twitter ac yn Nhŷ’r Arglwyddi nos Fawrth.