Bydd un o bwyllgorau Cyngor Sir Benfro yn ystyried adroddiad  heddiw i dreialu gwahardd ysmygu ar draeth yn y Sir.

O dan y cynllun arfaethedig fe fyddai un traeth yn cael ei ddefnyddio fel arbrawf cychwynnol, gyda’r cyngor ei hun yn plismona’r arbrawf.

Yn ôl Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd: “Mae’r Mesur Iechyd Cyhoeddus yn cynnwys cynigion pellach ar ofod di-fwg ac mae Llywodraeth Cymru yn gefnogol i draethau di-fwg.

“Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu strategaeth traeth 2014-2016 mewn partneriaeth er mwyn sicrhau fod ymweliad i draeth ym Mhenfro yn brofiad gwych i breswylwyr ac ymwelwyr a bod y dŵr o’r safon gorau.”

Bydd y pwyllgor hefyd yn trafod gwahardd ysmygu ym meysydd chwarae’r sir sydd o dan reolaeth yr awdurdod.

Yn ôl y Pwyllgor, “mae’r argymhelliad hwn yn rhan o agwedd iechyd a lles ac yn cyd-fynd gyda chynllun integreiddio Cyngor Penfro fod yna ystyriaeth i dreialu traeth di-fwg. “