Bydd dyn 62 oed yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw, wedi’i gyhuddo o ladrata o fanc yn y brifddinas.

Mae Phillip Rees o Dreganna wedi’i gyhuddo o ddwyn swm sylweddol o arian o fanc Lloyds yn Nhreganna ar Fawrth 31.

Roedd yr heddlu wedi cyhoeddi lluniau camera cylch-cyfyng fel rhan o’u hapêl am wybodaeth cyn i Rees gael ei arestio ddechrau’r wythnos hon.