Mae disgwyl i Gyngor Sir Gaerfyrddin gyfarfod heddiw i benderfynu ar ddyfodol monitro camerâu diogelwch (CCTV) ar draws y sir.

Daw’r cyfarfod wedi i fwy na hanner y bobl a gymerodd ran mewn ymgynghoriad am dorri gwasanaeth CCTV yn Sir Gaerfyrddin ddweud eu bod nhw’n gwrthwynebu’r cynlluniau.

Yn ôl Cyngor Sir Gaerfyrddin, gall dod a’r gwasanaeth monitro i ben arbed tua £100,000 y flwyddyn.

Ym mis Mawrth, fe wnaeth y cyngor benderfynu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn penderfyniad Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys i roi’r gorau i ddarparu cyllid ar gyfer y gwasanaeth.

Daeth penderfyniad y Comisiynydd ar ôl i adolygiad annibynnol honni nad oedd llawer o dystiolaeth fod y camerâu yn rhwystro troseddau treisgar neu rhai sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Ar hyn o bryd, mae bron i 90 o gamerâu diogelwch yn cael eu monitro gan Heddlu Dyfed Powys yn Rhydaman, Caerfyrddin, Llanelli a Phorth Tywyn.