Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi apêl am lygad dystion yn dilyn protest dreisgar yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Cafodd dau ddyn – Joshua Howe, 25, a Peter Simpson, 30 – eu harestio a’u cyhuddo o ymddwyn yn groes i’r drefn gyhoeddus ac o ymosod ar blismon.

Cafodd y brotest yr oedden nhw’n rhan ohoni ei threfnu gan griw o bobol o’r enw Anarchwyr De Cymru. Roedden nhw wedi mynd i mewn i fanc HSBC ar Stryd y Frenhines, gan achosi gofid a phryder i staff a chwsmeriaid.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad hefo unrhyw un oedd yn  y banc ar y pryd, yn enwedig menyw oedd yn gwthio pram gafodd ei rhwystro rhag gadael yr adeilad.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101.