Tracey Woodford, o ardal Pontypridd
Fe fydd dyn yn mynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dynes y cafwyd hyd i’w chorff mewn fflat yn ardal Pontypridd ddydd Gwener.

Fe fydd Christopher May, 50, yn mynd gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tracey Woodford, 47.

Cafodd Tracey Woodford, o ardal Pontypridd, ei gweld y tro diwethaf gan ei theulu tua 12.45yp ar 21 Ebrill a chafodd yr heddlu eu hysbysu’r diwrnod canlynol.

Roedd swyddog yr heddlu, fu’n chwilio fflat yn Andrews Court, yn Heol Rickards, yn y Graig, wedi darganfod corff oedd wedi ei dorri’n ddarnau toc cyn 3yp ar 24 Ebrill.

Cafodd May ei gyhuddo gan Heddlu De Cymru ddydd Sul.

Mae archwiliad post mortem wedi’i gynnal ond mae’r heddlu’n aros am ganlyniadau profion fforensig pellach i ddarganfod achos ei marwolaeth.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r digwyddiad ac yn apelio am dystion a allai fod wedi gweld Tracey Woodford yn nhafarn y Skinny Dog rhwng 9yh a 11yh ar 21 Ebrill.

Mae ei theulu wedi rhoi teyrnged iddo gan ei disgrifio fel person twymgalon iawn ac anhunanol, a fyddai’n mynd allan o’i ffordd i helpu unrhyw un.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 140670 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111.