Mae dau ddyn wedi bod gerbron llys ynadon Pontypridd bore ma ar gyhuddiad o lofruddio dyn 42 oed yn Nhonypandy yn Rhondda Cynon Taf nos Wener ddiwethaf.

Bu farw Wayne Letherby ar ôl ymosodiad difrifol  yn Stryd De Winton, Tonypandy yn hwyr nos Wener, 17 Ebrill.

Fe siaradodd y ddau – Dean James Doggett, 26, a
Jamie Leyshon, 26,  i gadarnhau eu henwau a’u cyfeiriad yn unig.

Maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys y Goron Merthyr ddydd Iau.

Mae dyn a dynes a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu’n parhau.

Mewn teyrnged iddo ddydd Llun, dywedodd teulu Wayne Letherby eu bod wedi tristau’n ofnadwy yn dilyn ei farwolaeth gan ei ddisgrifio fel “dyn a oedd yn gweithio’n galed ac a oedd yn cael ei garu gan ei deulu.”

Mae Heddlu’r De yn parhau i apelio am wybodaeth. Dylai unrhyw sydd gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 gan nodi’r rhif cyfeirnod 1500134148 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar  0800 555 111.