Mae’r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau bod swyddogion yn Laos yn ne ddwyrain Asia sy’n chwilio am ddynes o Gaerdydd wedi dod o hyd i gorff.

Fe aeth  Johanna Powell, 37 oed, sy’n olygydd lluniau i BBC Cymru, i drafferthion wedi i’r cwch pleser yr oedd hi’n teithio arno daro yn erbyn craig yn afon Mekong ger Pak Beng yn Laos a suddo’n gyflym.

Roedd hi ar wyliau ac yn teithio ar y cwch gyda thri o’i chyfeillion.

Digwyddodd y ddamwain ddydd Sadwrn ac nid yw Johanna Powell wedi cael ei gweld ers hynny.

Fe lwyddodd gweddill y bobol oedd yn teithio ar y cwch i nofio i’r lan ond nid yw hi’n glir beth oedd achos y ddamwain hyd yn hyn.

Dywedodd rhai o gyd-weithwyr  Johanna Powell o BBC Cymru mewn datganiad eu bod yn hynod o drist o glywed y newyddion.

“Rydym yn meddwl am ei theulu a’i ffrindiau ar yr adeg drist yma.”

Ychwanegodd un o’r teithwyr eraill oedd ar y cwch gyda Johanna Powell bod dyfroedd yr afon Mekong yn arw ac fel bod mewn “peiriant golchi”.

“Roedd yn frawychus,” meddai.

Dyw’r corff heb gael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn, meddai’r llefarydd o’r Swyddfa Dramor. Ychwanegodd eu bod yn rhoi cymorth consylaidd i’w theulu.