Traeth Porth Dafarch, Caergybi
Mae dyfais sy’n cael ei amau o fod yn fom wedi cael ei ddarganfod ar draeth ar Ynys Môn.

Cafodd Gwylwyr y Glannau Caergybi eu galw toc wedi 5yh neithiwr pan ddaeth aelod o’r cyhoedd o hyd i’r ddyfais.

Mae rhan o draeth Porth Dafarch yng Nghaergybi wedi bod ar gau ers hynny am resymau diogelwch tra bod Gwylwyr y Glannau’n disgwyl am uned difa bomiau i gael golwg arno.

Meddai llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau nad oes pryder enfawr am y gwrthrych a bod tri o dimau achub Gwylwyr y Glannau mewn lle i gynnal yr ardal ddiogelwch ar hyn o bryd.