Mae’r heddlu wedi rhybuddio pobol oedrannus yn ardal Pen-y-Bont ar Ogwr i wneud yn siŵr eu bod yn cloi drysau eu cartrefi gyda’r nos wedi lladrad ym Mhontycymer.

Cafodd consol Nintendo a nifer o addurniadau crisial eu dwyn fore dydd Sul, 15 Mawrth.

Yn ôl yr heddlu, nid yw pob person oedrannus yn cloi drysau eu cartre’ cyn mynd i’r gwely, ac mae hyn wedi arwain at sawl lladrad yn yr ardal.

Mae’r Ditectif Gwnstabl Rebecca Merchant yn ceisio esbonio pa mor anodd yw dal lleidr os nad yw wedi gorfod torri i mewn i adeilad.

“Mae rhai pobol hyn yn cofio adeg pan nad oedd yn rhaid cloi eu drysau, ac yn parahu i feddwl fel hyn,” meddai.

“Mae sawl lladrad wedi digwydd o ganlyniad i ddrysau a ffenestri’n cael ei gadael yn agored felly mae’n rhaid i bobol wneud yn siŵr bod eu cartrefi yn ddiogel. Mae hi ond yn cymryd munud i leidr weld cyfle i ddwyn.”