Mae’r siawns o gael swydd yng Nghymru wedi gwella am y tro cyntaf ers blwyddyn, yn ôl arolwg gan arbenigwyr gwaith Manpower.

Mae’r cyfleoedd o fewn y farchnad swyddi wedi codi o 4% i 6% ac erbyn hyn yn gyfartal a’r cyfleoedd ar draws gweddill gwledydd Prydain.

Roedd Manpower wedi holi 21,000 o gyflogwyr ym Mhrydain am eu bwriad i gyflogi gweithwyr neu leihau’r gweithlu yn y chwarter nesaf.

‘Rhagolygon yn gwella’

“Mae’r rhagolygon i rywun sy’n chwilio am swydd yng Nghymru wedi gwella dros y tri chwarter diwethaf,” meddai Rheolwr Gweithgreddau Manpower UK Krissie Davies.

“Yn benodol, mae galw am weithwyr manwerthu, ysgrifenyddion a PAs sydd â sgiliau teipio. Ac wrth gwrs, mae CV gref yn golygu eich bod yn medru dewis a dethol y swyddi gorau.

“Mae ymgeiswyr cryf yn medru gofyn am fwy o gyflog, ac mae hyn yn amlwg yng Nghaerdydd – lle mae’r farchnad swyddi fwyaf yng Nghymru.”

Dangosodd ffigyrau Manpower bod galw am swyddi yn y sector cyhoeddus hefyd wedi cynyddu.