Mark Drakeford
Bydd cyffur newydd i drin lewcemia ar gael i gleifion y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yng Nghymru, cyhoeddodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo argymhelliad gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG) y dylid cynnig y cyffur ponatinib i gleifion lewcemia yng Nghymru pan fydd triniaethau eraill yn methu.

Mae’r penderfyniad yn golygu mai Cymru fydd yr unig ran o’r DU a fydd yn darparu’r cyffur fel mater o drefn i gleifion y GIG â phob math o lewcemia myeloid cronig (CML) a lewcemia lymffoblastig acíwt.

Dywedodd yr Athro Mark Drakeford AC: “Rwy’n falch o gyhoeddi y bydd y cyffur hwn ar gael i oedolion â lewcemia yn dilyn argymhelliad Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru.

“Rwy’n falch bod gennym ni yng Nghymru system gadarn lle gall pobl gael triniaethau effeithiol ar gyfer canser a chyflyrau eraill sy’n peryglu bywyd.”