Leighton Andrews
Mae  Llywodraeth Cymru wedi lansio Papur Gwyn heddiw sy’n amlinellu’r telerau ar gyfer diwygio llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae’r papur yn gosod gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol llywodraeth leol a’i  hymateb i Gomisiwn Williams, sy’n galw am gwtogi nifer y cynghorau o 22 i 10,11 neu 12.

Meddai’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews ei fod eisiau i gynghorau lleol fod yn fwy cynhwysol ac atebol, ac yn rhannu grym a chyfrifoldeb gyda’r cymunedau y maen nhw’n  eu gwasanaethu.

‘Diwygio, nid ad-drefnu’

“Mater o ddiwygio yw hyn, nid ad-drefnu. Mae’n fater o ailadeiladu cynghorau o’r tu fewn allan, gan adfer ymddiriedaeth a hyder mewn llywodraeth leol a chreu perthynas newydd rhwng cynghorau a’r bobl y maen nhw’n eu gwasanaethu,” meddai.

Ychwanegodd bod y cynigion yn cyflwyno diwygiadau a fydd yn sicrhau “perfformiad cryf, democratiaeth gadarn, llywodraethu da a darpariaeth effeithiol o wasanaethau allweddol fel addysg, gwasanaethau cymdeithasol, gwastraff a chynllunio.”

‘Adolygiad o gyflogau’

Ymhlith y cynigion mae lleihau cost gwleidyddiaeth a rheolaeth ym maes Llywodraeth Leol. Dywed Leighton Andrews y bydd yn cynnal adolygiad o gyflogau cynghorwyr, arweinwyr ac aelodau cabinet, er mwyn lleihau cyfanswm y gost, yn unol â rhannau eraill o’r DU.

Ychwanegodd: “Byddai rheolaeth dynn ar daliadau i Brif Weithredwyr a phrif swyddogion eraill. Rydym yn cynnig y dylid recriwtio Prif Weithredwyr drwy broses recriwtio genedlaethol ac y dylid diffinio rôl a chyfrifoldebau Prif Weithredwyr mewn Awdurdodau Lleol drwy ddeddfwriaeth.”

Mae cynnig hefyd i gyfyngu ar y cyfnod y gall unigolyn fod yn gynghorydd i 25 mlynedd, ac a ddylai etholiadau Llywodraeth Leol barhau i ddigwydd bob pedair blynedd neu a ddylid ystyried opsiynau eraill.

Uno cynghorau

Ymysg y cynigion mae torri niferoedd cynghorau lleol trwy uno rhai ohonyn nhw. Er hynny, fe wrthododd Leighton Andrews gynigion gan chwe chyngor yng Nghymru a oedd wedi mynegi diddordeb i uno’n wirfoddol, gan ddweud nad oedd eu ceisiadau yn ddigon cryf.

Meddai Leighton Andrews: “Yn y Papur Gwyn hwn, rydyn ni’n gosod y telerau ar gyfer bargen newydd i lywodraeth leol yng Nghymru, sy’n seiliedig ar nifer lai o gynghorau cryfach, a fydd yn arwain at lywodraeth genedlaethol yng Nghymru yn gosod nifer fechan o flaenoriaethau cenedlaethol clir.

“Ein gweledigaeth yw llywodraeth leol gryfach a mwy cynrychioliadol sy’n darparu ac yn atebol am wasanaethau lleol o ansawdd sy’n bodloni anghenion cymunedau lleol.”

‘Angen gweledigaeth glir’

Dywedodd llefarydd  llywodraeth leol Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas ei fod yn edrych ymlaen at bori dros y cynigion ond ei fod yn pryderu nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn cynnig gweledigaeth gref i ddiwygio cynghorau lleol.

Meddai Rhodri Glyn Thomas: “Mae’n hen bryd ceisio mynd i’r afael â chyflog uwch swyddogion mewn llywodraeth leol ac mae Plaid Cymru yn croesawu penderfyniad y Llywodraeth Lafur i wrando ar ei galwadau i weithredu.

“Dylai’r mater ehangach o ad-drefnu llywodraeth leol ganolbwyntio ar wella cyflwyno gwasanaethau a gwella atebolrwydd democrataidd. Edrychaf ymlaen at ystyried cynigion hyn yn fwy manwl.

“Mae perygl ein bod yn gweld y Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus yn neidio o un peth i’r llall. Yn gyntaf daeth y Comisiwn Williams ac yna galwodd ar awdurdodau lleol i gynnig uno gwirfoddol, ond cawsant eu gwrthod, ac yn awr rydym yn cael cyflwyniad newydd i edrych ar berfformiad rheolwyr.

“Mae angen i’r Llywodraeth Lafur gynnig gweledigaeth glir o ddyfodol llywodraeth leol a chyflwyno darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”

‘Cyflogau allan o reolaeth’

Dywedodd llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr yng Nghymru Janet Finch-Saunders AC bod cyflogau rhai o uwch swyddogion cynghorau Cymru “wedi bod allan o reolaeth ers blynyddoedd, heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.

“Mae nifer o sgandalau wedi bod mewn rhai awdurdodau lleol yng Nghymru gyda phrif weithredwyr yn ymddangos fel eu bod yn pluo eu nythod ar draul y cyhoedd, tra eu bod yn torri gwasanaethau ac yn cynyddu’r dreth gyngor.

“mae angen mawr am waed newydd mewn llywodraeth leol, ond efallai na fyddai gwahardd rhai ymgeiswyr rhag sefyll eto yn un o’r ffyrdd mwyaf teg nag effeithiol o gyflwyno ymgeiswyr ieuengach.

“Mae newid yn niwylliant llywodraeth leol Llafur yn hir-ddisgwyliedig ac fe fyddwn ni yn craffu ar y cynigion yn y papur gwyn yn ofalus iawn.”

Grym i bobl leol?

Dywedodd llefarydd llywodraeth leol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Peter Black ei fod wedi “synnu”  gan gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar nifer y tymhorau y gall cynghorwyr ac uwch swyddogion wasanaethu.

“Mae’r papur gwyn yn awgrymu’r gwrthwyneb i’r hyn mae’n bwriadu ei wneud. Nid ydych chi’n rhoi grym i bobl leol os ydych chi’n eu hatal rhag pleidleisio dros y person maen nhw eisiau i’w cynrychioli, drwy wahardd pobl rhag sefyll mewn etholiad.

“Byddai cyfyngu ar dymhorau cynghorwyr ac uwch swyddogion yn golygu bod yr holl brofiad yna’n cael ei golli ac fe allai arwain at ansefydlogrwydd.

“Fe ddylai’r etholwyr benderfynu a ddylai eu cynghorydd barhau i’w cynrychioli, nid Llywodraeth Cymru.”

Bydd ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn dechrau heddiw ac yn dod i ben ar 28 Ebrill.