Llys y Goron yr Wyddgrug
Fe wnaeth dyn 25 oed ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug y bore yma ar gyhuddiad o geisio llofruddio dyn arall mewn siop Tesco.

Fe wnaeth Zachary Peter Davies o’r Wyddgrug ymddangos drwy gyswllt fideo o garchar Altcourse yn Lerpwl i gadarnhau ei enw.

Mae’n cael ei gyhuddo o geisio llofruddio, yn dilyn ymosodiad ar Sarandev Brahanbra, 24 oed o Swydd Efrog yn yr archfarchnad ddydd Mercher diwethaf.

Mae’r heddlu yn credu bod cymhelliad hiliol y tu ôl i’r ymosodiad.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn mynd o flaen y llys eto ar 10 Mawrth, ac fe allai’r achos gael ei gynnal ym mis Mehefin.