Fe gafodd Heddlu’r De eu galw i draeth Monknash ger Llanilltyd Fawr am 12.25 brynhawn ddoe wedi darganfyddiad corff dyn.

Mae’r teulu wedi cael gwybod ac mae’r broses o adnabod y corff yn ffurfiol wedi ei drefnu.

Parhau mae’r ymchwiliadau i amgylchiadau ei farwolaeth.

Nid oes gan yr heddlu ragor o wybodaeth ar hyn o bryd.