Mae swyddogion wedi dechrau ymchwilio i achos tân ar stad ddiwydiannol Llansamlet, Abertawe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Barc Busnes y ‘Central’ toc wedi 9 o’r gloch fore ddoe, a’r gred ydi fod cemegau yn cael eu storio yn yr adeilad lle mae’r tân wedi cynnau.

Roedd yr heddlu wedi gofyn i drigolion ardaloedd y Glais a Gellifedw gau eu ffenestri fel rhagofal wrth i ddiffoddwyr tân ddelio hefo’r digwyddiad.

Roedd o leiaf 60 o ddiffoddwyr yn ceisio rheoli’r fflamau a Heddlu’r De wedi cau ffyrdd yn yr ardal.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod 18 o bobol wedi cau eu symud o’r adeilad.