Edwina Hart yw'r Gweinidog Trafnidiaeth
Erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf bydd cyfyngiadau dros dro ar yrwyr i gadw at 20 milltir ger wyth ysgol yng Nghymru.
Bydd arwyddion electronig yn rhybuddio gyrwyr bod y cyfyngiad yn weithredol ar adegau pan mae plant yn mynd a dod i’r ysgol.
Os fydd y cynllun yn llwyddo mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod potensial i orfodi’r cyfyngiad ar ffyrdd ger ysgolion gweddill y wlad.
Dewiswyd yr wyth ysgol yn dilyn adolygiad o ddiogelwch cymunedol ar ffyrdd Cymru.
“Rydw i wedi ymrwymo i wella diogelwch ar ffyrdd Cymru,” meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart wrth gyhoeddi bod £500,000 i’w wario ar y cynllun.
“Dengys y dystiolaeth bod cyfyngiadau 20 milltir yr awr yn medru gwella ymddygiad y gyrrwr ac arafu cyflymder ger ysgolion.”
Yr ysgolion dan sylw:
- Ysgol Gynradd Penllwyn, Ceredigion
- Ysgol Gynradd Talybont, Ceredigion
- Ysgol Gynradd Llanarth, Ceredigion
- Ysgol Y Ganllwyd, Gwynedd
- Ysgol Gynradd Bontnewydd, Gwynedd
- Ysgol OM Edwards Lanuwchllyn, Gwynedd
- Ysgol Pontnewydd ar Wy, Powys
- Ysgol Llanelwedd, Powys