Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau targedu myfyrwyr o du allan i Gymru fel rhan o’u hymgyrch i godi ymwybyddiaeth am y newid i’r gyfraith rhoi organau fydd yn dod i rym yn 2015.

O dan y gyfraith newydd, bydd meddygon yn cymryd yn ganiataol bod pawb sydd wedi bod yn byw yng Nghymru am fwy na 12 mis yn fodlon rhoi eu horganau ar ôl marw, os nad ydyn nhw’n dweud fel arall.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r newid mewn colegau a phrifysgolion ledled Cymru, a hefyd wedi anfon gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr o du allan i’r wlad.

Gwybodaeth

“Mae hysbysebion ar deledu, radio, gwefannau cymdeithasol a phapurau newydd yn parhau, ond mae hwn yn elfen ychwanegol sy’n cychwyn y mis yma,” meddai llefarydd sy’n rhan o’r ymgyrch i hyrwyddo’r newid.

“Mae’r rheiny sy’n byw yng Nghymru yn barod yn debygol o fod yn fwy ymwybodol o’r ddeddfwriaeth efallai na’r rheiny o du allan i Gymru.

“Rydym ni’n ceisio addysgu unrhyw fyfyriwr sydd am fod yng Nghymru am gyfnod, yn enwedig myfyrwyr tramor, o’r newid, ac wedi anfon gwybodaeth i golegau yn Lloegr hefyd i esbonio fod y gyfraith yn newid os ydyn nhw’n dod i Gymru.”

Y cefndir

Cafodd y newid i’r gyfraith rhoi organau ei chymeradwyo yn 2013 a bydd yn dod i rym yn llawn ar 1 Rhagfyr 2015.
Y bwriad yw cynyddu nifer yr organau a meinweoedd sydd ar gael i’w trawsblannu o tua 25%.
Dywed Llywodraeth Cymru fod 36 o bobol wedi marw yng Nghymru’r llynedd wrth aros i dderbyn organ addas.