Mae dyn 38 oed yn cael ei gadw o dan y ddeddf iechyd meddwl ar ôl iddo gael ei arestio yn dilyn cyrch arfog yn Nhŵr Meridian ym Marina Abertawe bnawn ddoe.

Dywed Heddlu De Cymru bod y dyn yn cael ei gadw mewn uned ddiogel lle mae’n cael ei asesu gan staff meddygol. Fe fydd yn parhau ar fechnïaeth yr heddlu nes eu bod nhw wedi derbyn adroddiad llawn am ei gyflwr.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r adeilad uchaf yng Nghymru am 4 bnawn dydd Gwener yn dilyn adroddiadau bod dyn yn cael ei gadw’n wystl ar y 28ain llawr gan ddyn arfog.

Cafodd unedau arbennig eu hanfon i’r safle, gan gynnwys hofrennydd yr heddlu a heddlu arfog.

Roedd ffyrdd wedi eu cau o amgylch y twr a’r cyhoedd wedi’u cynghori i gadw draw o’r ardal.

Ar ôl tua dwy awr cafodd Taser ei ddefnyddio i dawelu’r dyn arfog a chafodd ei arestio gan heddlu arfog.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi dod o hyd i ddryll ar y safle a’u bod bellach yn ymchwilio i ddarganfod pwy yw perchennog y dryll.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Andy Kingdom: “Mae digwyddiad o’r math yma yn anarferol iawn yn yr ardal yma ac mae wedi synnu pobl leol a’r gymuned ehangach.

“Ond tra y bydd pobl yn siarad am y digwyddiad am amser i ddod, ni ddylen nhw fyw mewn ofn gan fod troseddau yn ymwneud a drylliau yn anarferol iawn.”

“Mae gennym ni swyddogion sydd wedi eu hyfforddi i ddelio gyda sefyllfaoedd fel hyn a hoffwn ddiolch iddyn nhw, a’r bobl ddiniwed gafodd eu dal ynghanol y digwyddiad, am eu dewrder a’u cydweithrediad yn ystod y digwyddiad yma.”

Cafodd y tŵr, sy’n 300 troedfedd o uchder, ei gwblhau yn 2009. Cafodd ei ail-agor am hanner dydd heddiw.