Matthew Rhys
Fe fydd yr actor o Gymru Matthew Rhys yn rhan o daith noddedig a fydd yn ymlwybro ar hyd Patagonia er mwyn codi arian ar gyfer Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd.

Mae’r daith 11 diwrnod ar draws parciau cenedlaethol Patagonia yn nodi 150 mlynedd ers i’r Cymry cyntaf ymfudo i Batagonia ar y Mimosa yn 1865. Ac ym mis Tachwedd, bydd yn dringo Craig Goch i’r man lle gwelwyd Cwm Hyfryd am y tro cyntaf gan ei gyndeidiau o Gymru.

Fe fydd Matthew Rhys yn un o’r 50 o bobol fydd yn cymryd rhan yn y daith, bob un yn gobeithio codi £6,000 ar gyfer yr ysbyty.

“Rwyf wrth fy modd fod y daith noddedig ddiweddaraf yn mynd i Batagonia,” meddai Matthew Rhys, sy’n noddwr tramor yr ysbyty.

“Rwy’n falch fy mod wedi cael y cyfle i ddatblygu perthynas gref a’r wlad a’i phobol yn barod. Mae’n un o’r llefydd hynny – unwaith ydach chi wedi bod yno, mae’n mynd o dan eich croen chi.”

Arbennig

Ychwanegodd pennaeth Adran Noddi Ysbyty Felindre, Andrew Morris: “Ar ôl trefnu teithiau llwyddiannus i lefydd fel Kilimanjaro a Peru, roeddem ni eisiau trefnu taith i rywle arbennig iawn.

“O ystyried y berthynas unigryw rhwng Patagonia a Chymru, a’r pen-blwydd arbennig, mis Tachwedd 2015 yw’r amser gorau i fod yn cerdded ar hyd y wlad anhygoel yma.”

Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd Matthew Rhys ei fod yn ymuno a Phlaid Cymru.