Nasser Muthana yn fideo'r grŵp Isis
Mae un o’r tri dyn o Gaerdydd, oedd wedi ymuno a grŵp eithafol Isis yn Syria, wedi rhoi ei gyfweliad cyntaf ar-lein i BBC Cymru.

Mewn cyfweliad dros y we ar raglen Week In Week Out heno mae Aseel Muthana, sy’n 17 oed, yn disgrifio ei fywyd fel terfysgwr ac yn dweud ei fod yn fodlon marw dros achos Isis.

Yn y rhaglen mae’n disgrifio gweld “merthyron dros achos Isis” yn Syria ac yn dweud nad yw’n bwriadu dychwelyd adref.

Mae Aseel Muthana hefyd yn dweud ei fod wedi dod yn gyfeillgar gyda milwyr Jihad eraill o Brydain sydd wedi teithio i Syria i ymuno a gwrthryfelwyr Isis.

Mae’n ymddangos bod y ddau ddyn arall o Gaerdydd, sef brawd Aseel Muthana, Nasser, 20, a’i ffrind Reyaad Khan, a oedd wedi gadael Caerdydd ym mis Tachwedd y llynedd, hefyd wedi bod yn gwneud sylwadau ar wefannau cymdeithasol.

Mae’r rhaglen wedi ceisio sicrhau mai’r dynion sydd wedi gwneud y sylwadau ar y rhaglen, ond ni all fod 100% yn sicr.

Roedd y dynion wedi gwrthod ateb rhai cwestiynau penodol ond maen nhw’n cyfeirio at ymddangos yn fideo Isis.

Mae Ahmed Muthana, tad y brodyr, sy’n bwy yng Nghaerdydd, wedi dweud wrth Week In Week Out ei fod yn siomedig iawn gyda’i feibion a’i fod am iddyn nhw ddychwelyd adref.

Mae’r rhaglen heno yn ymchwilio i’r hyn a arweiniodd at y dynion yn teithio o Gaerdydd i Syria.

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu heno am 10.35yh ar BBC Cymru.