Ed Miliband
Mae cabinet Llafur San Steffan yn cyfarfod gyda chabinet Llafur Llywodraeth Cymru heddiw mewn ymgais i dynnu sylw at yr hyn y maen nhw’n honni sy’n llwyddiannau economaidd yng Nghymru.

Mae’n cael ei gweld yn ymgais i wrthweithio’r sylw gwael y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael ynglŷn â’r Gwasanaeth Iechyd.

Yn ôl Llafur, fe fydd y cyfarfod heddiw yn ne Cymru yn canolbwyntio ar yr economi a llwyddiant Llywodraeth Cymru gyda chynlluniau creu gwaith, yn arbennig i bobol ifanc.

Esiampl

Ar ôl y cyfarfod, fe fydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, Ed Miliband, yn mynd i siarad gyda gweithwyr yn GE Aviation ym Mro Morgannwg, y gwaith sy’n cyflogi mwya’ o brentisiaid yng Nghymru.

Mae Llafur yn dweud bod lefel cyflogaeth wedi cynyddu mwy yng Nghymru nag yn yr un rhanbarth economaidd arall ac mae lefel diweithdra wedi cwympo o dan gyfartaledd gwledydd Prydain.

Maen nhw’n tynnu sylw’n arbennig at gynllun Twf Swyddi Cymru, sydd, medden nhw, yn golygu bod diweithdra ymhlith pobol ifanc yn is yng Nghymru na’r rhan fwya’ o’r Deyrnas Unedig.

Yn ôl Carwyn Jones, fe fyddai ethol llywodraeth Lafur yn San Steffan yn golygu bod modd gwneud pethau tebyg yn Lloegr hefyd.

Sgiliau

“Fe fydd Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn y dyfodol yn sicrhau bod y rhai sydd heb y sgiliau angenrheidiol mewn hyfforddiant yn hytrach na bod ar fudd-daliadau,” meddai Ed Miliband cyn y cyfarfod.

“Fe fydd yn gwarantu swyddi cychwynnol gyda chyflog i bobol ifanc sydd wedi bod allan o waith am flwyddyn.”