David Davies
Mae angen edrych ar faint o nwy siâl sydd dan ddaear Cymru er mwyn i’r wlad elwa ohono medd pwyllgor o Aelodau Seneddol Cymru yn San Steffan.

Mewn adroddiad sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn dweud bod ffracio yn cynnig cyfleoedd o ran swyddi ac economi, ond y dylid ystyried materion amgylcheddol hefyd.

Mae ffracio yn dechneg ddadleuol o gael nwy o graig yn y ddaear, ac mae Plaid Cymru, ynghyd â Chyfeillion y Ddaear a WWF Cymru, wedi codi cwestiynau am beryglon y broses o ran llygru dŵr a daeargrynfeydd posib.

Ond mae adroddiad y Pwyllgor heddiw yn argymell y dylai llywodraethau Cymru a Phrydain gydweithio gyda chwmnïau ynni er mwyn gweld faint o nwy siâl sydd ar gael yng Nghymru.

‘Gwybod bod ychydig o beryg

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David Davies, AS Mynwy,

“Mae nwy siâl yn cynnig llu o fuddiannau posib i Gymru, yn nhermau cyflenwad ynni, buddiannau economaidd a swyddi.

“Rydym yn gwybod fod ychydig o beryg amgylcheddol: mae’n rhaid i lywodraethau Prydain a Chymru ddangos fod popeth wedi ei wneud i asesu a lleihau’r peryglon – i’r amgylchedd ac i fwynhad pobol Cymru o’r amgylchedd – cyn inni symud ymlaen a gwneud y mwyaf o’r buddiannau i Gymru.”

Dywed Llywodraeth Prydain y bydd 70% o gyflenwadau nwy Prydain wedi cael ei fewnforio erbyn 2025, a bod angen dod o hyd i ffyrdd newydd o gael nwy er mwyn diogelu’r cyflenwad.