Ysbyty Cwm Cynon (Llun Bwrdd Iechyd Cwm Taf)
Mae chwech aelod o staff Ysbyty Cwm Cynon – lle mae ymchwiliad ar droed yn dilyn marwolaeth claf – wedi cael caniatâd i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cael eu gwahardd dros dro.

Bu farw Tegwen Roderick, 88, yn Ysbyty Tywysog Charles ddydd Mercher ar ôl cael ei symud o Ysbyty Cwm Cynon yn dioddef o anafiadau difrifol “anesboniadwy”.

Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad yn yr ysbyty yn Aberpennar.

Ar ôl gwahardd 10 aelod o staff yr ysbyty o’u gwaith, mae prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Allison Williams, bellach wedi cadarnhau fod chwech ohonyn nhw yn cael dychwelyd i’w gwaith.

Ar hyn o bryd, does dim cyswllt wedi’i ddarganfod rhwng ei hanafiadau a’i marwolaeth, ac mae pedwar o bobol yn helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Cefndir

Ar 29 Mai cafodd Tegwen Roderick ei chludo i Ysbyty Cwm Cynon am 9.40 y bore.

Darganfuwyd bod ganddi anafiadau difrifol nad oedd modd eu hesbonio, ac fe gafodd ei chludo i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful, lle bu farw ar 4 Mehefin.

Fe gafodd archwiliad post mortem ei gynnal ddoe ac mae’r ymchwiliad yn parhau.