Lesley Griffiths
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £22 miliwn yn y cynllun Cymorth y Dreth Gyngor, er mwyn parhau i roi cymorth i aelwydydd sydd ar incwm isel a rhai sydd fwyaf agored i niwed.
Bydd tua 320,000 o aelwydydd ledled Cymru yn gweld budd o’r cynllun, yn ôl y Llywodraeth.
Yn 2013, fe wnaeth Llywodraeth Prydain ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor, ond fe gyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, heddiw y bydd y cymorth hwn yn parhau yng Nghymru am o leiaf dwy flynedd arall.
Amddiffyn
“Er gwaethaf diffyg sylweddol mewn cyllid, mae amddiffyn yr unigolion hynny sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn un o flaenoriaethau pwysicaf y Llywodraeth hon,” meddai’r Gweinidog.
“Bydd y cyllid yn helpu i wrthbwyso rhai o effeithiau diwygio lles yng Nghymru. I’r gwrthwyneb, yn Lloegr, mae dros ddwy filiwn o aelwydydd incwm isel yn talu mwy o Dreth Gyngor ers i Fudd-dal y Dreth Gyngor gael ei ddiddymu.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gorau glas i amddiffyn aelwydydd ar incwm isel ac aelwydydd agored i niwed,” meddai Lesley Griffiths.