Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru’n cynnal ymchwiliad yn dilyn adroddiadau bod canlyniadau rhai o gemau Uwch Gynghrair Cymru wedi cael eu trefnu ymlaen llaw.

Yn ôl papur newydd y Guardian, mae’r honiadau’n ymwneud â dwy gêm – un rhwng Y Bala a Chei Connah a’r llall rhwng Port Talbot a Chaerfyrddin.

Cafodd adroddiad yn enwi’r ddwy ornest ei gyflwyno i Senedd Ewrop gan Federbet ddoe, ond mae’r Gymdeithas Bêl-Droed yn dweud nad ydyn nhw wedi derbyn gwybodaeth am yr honiadau gan Federbet, y corff sy’n ymchwilio i honiadau o drefnu canlyniadau.

Yn ôl y Gymdeithas Bêl-Droed, maen nhw’n cynnal ymchwiliadau dirybudd o dro i dro yn ystod y tymor, ond doedden nhw ddim wedi amau’r un o’r ddau ganlyniad o fod wedi’u trefnu’n anghyfreithlon.

Ond maen nhw’n dweud eu bod yn “trin yr honiadau’n ddifrifol” a’u bod nhw wedi “addasu’r rheolau a fydd yn dod i rym ar 1 Awst 2014”.

Bydd gofyn i bob chwaraewr fod yn ymwybodol o’r rheolau newydd pan fyddan nhw’n cofrestru i chwarae’r tymor nesaf.

Yn ogystal, mae’r Gymdeithas Bêl-Droed yn bwriadu cyflwyno rhaglen ymwybyddiaeth i bob clwb yn ystod y tymor nesaf.

Maen nhw wedi gofyn am eglurhad o fethodoleg Federbet wrth ddod i’r casgliad bod canlyniadau’r gemau wedi cael eu trefnu’n anghyfreithlon.