Mae cwmni bysus sy’n destun ymchwiliad gan Heddlu Gogledd Cymru, wedi cyhoeddi y bydd yn cau am hanner nos heno.

Fe fydd 84 o bobol yn colli’u gwaith gyda chwmni Bysiau Padarn yn Llanberis.

Mae’r cwmni wedi colli cytundeb gyda Chyngor Gwynedd, a hynny am fod Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i honiadau o dwyll o fewn y cwmni.

Ddoe, fe gyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru ddatganiad yn nodi fod dynes 28 oed, a dyn 44 oed, wedi’u harestio ar Fai 24.