Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod dynes wedi marw yn dilyn tân mewn car yn Nhredegar bnawn ddoe.

Bu farw’r ddynes o anafiadau llosg difrifol yn Ysbyty Treforys ar ôl cael ei chludo yno mewn Ambiwlans Awyr tua 1:45 bnawn dydd Mawrth.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub o Dredegar a Glyn Ebwy eu galw i’r safle ar ffordd Dukestown.

Mae ymchwiliad i achos y tân wedi dechrau ac mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.