Yr Athro Colin Pillinger
Bu farw’r gwyddonydd arloesol, yr Athro Colin Pillinger yn 70 oed.
Cafodd y gwyddonydd, a gwblhaodd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe, waedlif ar ei ymennydd a bu farw yn ei gartref yng Nghaergrawnt.
Daeth yn gymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Caergrawnt yn dilyn ei gyfnod yn Abertawe.
Roedd yn allweddol wrth ddatblygu a lansio Beagle 2, aeth ar goll wrth deithio i’r blaned Mawrth yn 2003.
Diflanodd Beagle 2 ar ôl ymddatod oddi wrth Mars Express, ac roedd disgwyl iddo lanio ar Ddydd Nadolig 2003.
Dechreuodd yr Athro Pillinger ei yrfa’n gweithio i Nasa, yn dadansoddi creigiau o’r lleuad fel rhan o raglen Apollo.
Daeth yn Athro Gwyddoniaeth Rhyngblanedol yn y Brifysgol Agored yn 1991.
Bu’n dioddef o barlys ymledol (MS) ers 2005, ond fe barhaodd â’i ymdrechion i ddatblygu technoleg Beagle er gwaetha’r salwch.